WG_positive_40mm

Vaughan Gething AC/AM

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

 

Rebecca  Evans AC/AM

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Minister for Social Services and Public Health

 

 

 

Dr David Lloyd AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon,

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

Ein cyf / Our ref  MA-(P)/VG/7733/16

30 Tachwedd 2016

Annwyl Dai,

 

Cyfeiriwn at eich llythyr dyddiedig 17 Tachwedd, yn amlinellu prif gasgliadau eich gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18.  Isod nodir ein hymateb i'r materion hynny rydych wedi gofyn am ragor o wybodaeth amdanynt.

 

1.     Dyraniad ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau'r GIG

O ran ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio'r £240 miliwn ychwanegol a ddyrennir i GIG Cymru, amlinellir y rhain yn y papur tystiolaeth. Yn anochel, y peth cyntaf y bydd angen gwario'r cyllid hwn arno fydd galluogi sefydliadau'r GIG i ymateb i dwf arferol mewn costau, gan gynnwys ariannu'r codiad cyflog i staff y GIG, a chynyddiadau mewn cytundebau contract ar gyfer ymarferwyr meddygol cyffredinol a deintyddol.

Fel y nodwyd gennym, byddwn hefyd yn neilltuo rhywfaint o'r cyllid hwn i helpu gyda'r materion ariannol penodol ym Myrddau Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Hywel Dda.

Yn unol â'n cytundeb cyllideb â Phlaid Cymru, caiff £20 miliwn o'r cyllid ychwanegol ei ddyrannu i wasanaethau iechyd meddwl a'i gynnwys yn y dyraniad sydd wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl. Golyga hyn y bydd y dyraniad hwn yn fwy na £620 miliwn yn 2017-18.

Hefyd, rydym yn bwriadu defnyddio rhywfaint o'r cyllid hwn i ddatblygu ymhellach ein nod o ddarparu mwy o ofal yn nes at y cartref. Rydym yn ystyried opsiynau o ran y ffordd orau o gymell rhagor o gynnydd mewn perthynas â hyn, a rhoddir rhagor o fanylion i'r Pwyllgor ynghylch hyn maes o law.   

Byddwn yn ysgrifennu at y Pwyllgor maes o law gan roi manylion y gwaith a wneir mewn perthynas â'r ymyriadau wedi'u targedu gyda'r tri bwrdd iechyd.

Gallwn gadarnhau bod trefniadau wedi'u gwneud i'r £30 miliwn a ddyrannwyd yn 2016-17 ar gyfer pobl hŷn ac iechyd meddwl, a'r cyllid a ddyrannwyd yn 2015-16 ar gyfer gofal sylfaenol, cynllun cyflawni, technoleg iechyd ac iechyd meddwl, gael eu darparu unwaith eto yn 2017-18. 

 

2.     Cynllunio Ariannol a Sefyllfa Ariannol Byrddau Iechyd Lleol

Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am sefyllfa ariannol byrddau iechyd lleol a'r sefyllfa o ran y gyllideb Iechyd, Llesiant a Chwaraeon gyffredinol wrth i'r flwyddyn ariannol hon fynd yn ei blaen. Fel yn 2015-16, cyhoeddir datganiad ysgrifenedig ar ôl i gyfrifon y GIG ar gyfer 2016-17 gael eu cwblhau a'u harchwilio cyn toriad yr haf.

Nodwyd y sefyllfa o ran Byrddau Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Hywel dda yn natganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 2 Tachwedd, gan gadarnhau'r dyraniad o £68.4 miliwn o gronfeydd wrth gefn er mwyn rheoli'r diffygion ariannol yn y ddau sefydliad hyn. Hefyd, rydym wedi bod yn agored am ein pryderon ynghylch gallu Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Caerdydd a'r Fro i lunio cynllun y gellir ei gymeradwyo, sef rhan o'r rheswm dros roi ymyriadau wedi'u targedu ar waith mewn perthynas â'r sefydliadau hyn ym mis Medi. Nid ydym yn hyderus y bydd y sefydliadau hyn yn cyflawni balans ariannol yn 2016-17, a byddwn yn parhau i gydweithio â hwy drwy'r fframwaith uwchgyfeirio er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.

Ar wahân i'n pryderon ynglŷn â'r pedwar sefydliad hyn, rydym yn hyderus ar hyn o bryd y bydd chwe sefydliad arall y GIG yn cyflawni balans ariannol yn 2016-17 ac y bydd cyllideb gyffredinol y Prif Grŵp Gwariant yn mantoli.

Yn yr hirdymor, rydym wedi ymrwymo i roi'r sefydliadau hyn mewn sefyllfa ariannol gynaliadwy. Fel y nodir yn ein papur tystiolaeth, byddwn yn cyfeirio rhywfaint o'r cyllid ychwanegol at roi cymorth i Fyrddau Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Hywel Dda. Nid yw hyd a lled y cymorth hwn wedi'i bennu eto. Byddwn yn defnyddio Fframwaith Cynllunio'r GIG er mwyn helpu sefydliadau eraill i lunio cynlluniau tymor canolig ariannol gynaliadwy.

3.     Sefyllfa Ariannol Llywodraeth Leol

Mae pob Awdurdod Lleol yn gorff ymreolaethol sy'n ddemocrataidd atebol ac sy'n statudol gyfrifol am reoli ei faterion ariannol ei hun.  Nid yw'r setliad cyffredinol o £4.1 biliwn wedi'i neilltuo.  Cyfrifoldeb pob awdurdod yw pennu sut y bydd yn defnyddio'r cyllid hwn ar y cyd â'r adnoddau eraill sydd ar gael iddo – er enghraifft, drwy'r dreth gyngor, grantiau, a ffioedd a thaliadau – er mwyn diwallu anghenion a blaenoriaethau lleol. 

 

Mae'n hollbwysig i bob awdurdod sicrhau bod ganddo drefniadau cadarn ar waith i aelodau etholedig lleol graffu ar ei gynlluniau gwariant mewn modd hyddysg ac i fonitro perfformiad yn erbyn y cynlluniau hyn yn barhaus.  Caiff gwariant ar wahanol wasanaethau ei fonitro drwy'r wybodaeth am y cyfrif refeniw blynyddol a'r ffurflenni alldro refeniw a gesglir gan Lywodraeth Cymru.  Caiff y data ar wariant eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

 

Mae'r £25 miliwn ychwanegol yn y setliad ar gyfer gofal cymdeithasol yn cydnabod y pwysau penodol y mae'r sector yn eu hwynebu.  Fel yr ydych yn cydnabod yn eich llythyr, cyfrifoldeb pob awdurdod unigol fydd penderfynu ar y ffordd orau o wario ei gyfran o'r £25 miliwn ychwanegol gan ystyried ei amgylchiadau penodol ei hun.  Mater i Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei ystyried yw canlyniadau gofal cymdeithasol.

Ø  Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol

Holodd y Pwyllgor am gost flynyddol gweithredu ein hymrwymiad o dan Symud Cymru Ymlaen i godi'r terfyn cyfalaf o £50,000 wrth godi tâl am ofal preswyl. Gan ddilyn ein dull gweithredu fesul cam mewn perthynas â hyn, amcangyfrifodd y gwaith ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gennym mai £19.398 miliwn y flwyddyn yw'r gost hon o 2019-20 ar sail prisiau'r flwyddyn honno.

O ran nifer y bobl a fyddai'n cael budd o'n hymrwymiad arall i ddiystyru Pensiynau Anabledd Rhyfel yn llawn mewn asesiadau ariannol ar gyfer codi tâl am ofal cymdeithasol, amcangyfrifodd y gwaith ymchwil annibynnol y byddai 134 o bobl sy'n cael pensiynau o'r fath yn cael budd o hyn. Fodd bynnag, disgwylir i'r nifer hon leihau dros amser am fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cau'r pensiwn penodol hwn i bersonél y lluoedd arfog sydd newydd gael anaf.

4.     Blaenoriaethu Gwariant

Ø  Cronfa Gofal Canolraddol

Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o gydweithio â'r rhanbarthau er mwyn llunio canllawiau cadarn newydd mewn perthynas â'r Gronfa Gofal Canolraddol.  Bydd disgwyl i fyrddau partneriaeth rhanbarthol barhau i ddefnyddio'r Gronfa Gofal Canolraddol er mwyn darparu gwasanaethau gofal a chymorth integredig ac ataliol effeithiol yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'n ofynnol i'r Byrddau hyn ymateb i'r asesiad poblogaeth sydd hefyd yn ofynnol o dan y Ddeddf a blaenoriaethu'r gwaith o integreiddio gwasanaethau mewn sawl ardal, gan gynnwys mewn perthynas â'r canlynol:

·         Plant a phobl hŷn ag anghenion cymhleth;

·         Pobl ag anableddau dysgu;

·         Gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc. 

 

Nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagnodol o ran yr allbynnau a'r canlyniadau a ddisgwylir o'r Gronfa Gofal Canolraddol.  Mae'n ofynnol i ranbarthau nodi eu cynigion ar gyfer prosiectau a gwasanaethau yn seiliedig ar dystiolaeth a geir yn eu hasesiad poblogaeth.

Rydym yn dal i ymgysylltu â byrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn eu helpu i roi hyn ar waith yn barhaus.  Mae hyn yn cynnwys rhannu arfer gorau o ran defnyddio'r Gronfa Gofal Canolraddol.

Ø  Gofal Sylfaenol 

Gallwn gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cronfa gofal sylfaenol genedlaethol gwerth £42.6m er mwyn helpu byrddau iechyd i roi gwelliannau gofal sylfaenol ar waith fel y nodir yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig a dyrannwyd £10m ar gyfer y 64 o glystyrau gofal sylfaenol er mwyn buddsoddi yn eu gwelliannau gwasanaeth a bennir yn lleol. Mae'r gronfa hefyd yn cefnogi rhaglen genedlaethol o gynlluniau braenaru a modelau er mwyn profi ffyrdd newydd o weithio a rheolau newydd ar gyfer y gweithlu.

Canlyniadau bwriadedig y gronfa gofal sylfaenol yw gwasanaethau cynaliadwy, gwella gallu pobl i gael gafael arnynt, a mwy o ofal yn nes at y cartref.  Er enghraifft, caiff cynaliadwyedd gwasanaethau ei gyflawni drwy'r timau cymorth gofal sylfaenol a ddefnyddir yn hyblyg a phenodi fferyllwyr, ffisiotherapyddion a gweithwyr cymdeithasol er mwyn rhyddhau amser ac arbenigedd meddygon teulu. Er mwyn helpu i wella gallu pobl i gael gafael ar y gofal cywir ar yr adeg gywir, ceir proses newydd a arweinir gan glinigwyr i frysbennu galwadau i feddygon teulu a'u cyfeirio at yr ymateb cywir. Mae mwy o ofal yn cael ei ddarparu'n nes at y cartref, gan leihau galw diangen ar wasanaethau ysbyty, drwy ymestyn timau adnoddau cymunedol i 7 diwrnod yr wythnos a darparu gofal i bobl â chyflyrau cronig fel diabetes yn y gymuned, gan osgoi'r angen i deithio i glinigau ysbyty.

Ø  Plant

Mae Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau ar gyfer Plant, a gadeirir gan David Melding, AC, yn cyflwyno rhaglen waith eang er mwyn sbarduno gwelliannau mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal, maethu a mabwysiadu. Drwy ei waith, bydd y grŵp yn cyfrannu at leihau nifer yr achosion o brofiadau andwyol yn ystod plentyndod, yn ceisio meithrin cydnerthedd o fewn y teulu, yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar ac yn gwella canlyniadau ar gyfer plant mewn gofal.  Mae gan y grŵp gyllideb o £100k er mwyn datblygu meysydd gwaith penodol, ond bydd cyllid arall ar gael drwy bortffolios a fydd yn cyfrannu at gyflawni gwaith y grŵp. Mae hawliau'r plentyn yn elfen hanfodol o'n rhaglen waith a bydd y gwaith newydd a ddatblygir yn ystyried CCUHP fel rhan o'r broses o asesu effaith polisïau.

Ø  Chwaraeon a gweithgarwch corfforol

Byddwn yn fwy na pharod i roi manylion y dyraniadau cyllideb y cytunwyd arnynt ar gyfer Chwaraeon Cymru yn 2017-18, ynghyd â datganiad sy'n nodi'r canlyniadau y bydd Llywodraeth Cymru am eu gweld yn cael eu cyflawni ar gyfer y buddsoddiad hwn a'r amserlen ar gyfer cyflawni'r canlyniadau hyn maes o law.

Ø  Gwasanaethau Iechyd Meddwl 

Cydnabyddir bod pob rhan o'r GIG yn wynebu heriau ariannol.  Rydym yn cydnabod y diddordeb penodol yng Nghymru mewn cyllid ar gyfer iechyd meddwl.  Gwnaethom ddarparu cyllid ychwanegol penodol y llynedd ac eleni.   Mae'r £20.5m ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl (gan gynnwys £0.5m ar gyfer anhwylderau bwyta) yn ychwanegol at y cyllid a ddarparwyd yn flaenorol ar gyfer 2015-16 a 2016-17. Yn 2015-16 roedd y cyllid ychwanegol yn cynnwys £7.65m ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, £5.6m ar gyfer oedolion hŷn, £1.9m ar gyfer therapïau seicolegol (*y cafodd £1m ohono ei ddarparu o gyllid gwerth £10m y cynllun cyflawni) ac £1.5m ar gyfer gwasanaethau amenedigol. Yn 2016-17 mae £6.375m wedi cael ei ddarparu o'r cyllid gwerth £30m ar gyfer pobl hŷn ac iechyd meddwl. Roedd hyn yn cynnwys cyllid cylchol gwerth £2.3m ar gyfer timau adnoddau hyblyg mewn ysbytai, £1.5m ar gyfer gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol iechyd meddwl lleol, £1.15m ar gyfer therapïau seicolegol i gleifion mewnol, £325,000 ar gyfer staff cymorth dros dro a £100,000 ar gyfer codi ymwybyddiaeth o leihau risg dementia. Hefyd, darparwyd £1m ychwanegol ar gyfer lleoedd ychwanegol mewn clinigau cof a £329,000 ar gyfer trefniadau diogelu rhag colli rhyddid ar sail anghylchol. Fel y soniwyd eisoes, golyga hyn y bydd y dyraniad yn fwy na £620 miliwn yn 2017-18 ac ystyrir bod cyllid priodol wedi cael ei ddyrannu.

Ø  Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

Mae ein buddsoddiad newydd gwerth bron i £8m mewn CAMHS yn dechrau dangos effaith wirioneddol gyda byrddau iechyd yn blaenoriaethu cyllid ar wella mynediad tra bo staff a gwasanaethau newydd yn cael eu datblygu. 

 

O ganlyniad i hyn, rhwng mis Awst 2015 a mis Medi 2016, mae cyfanswm nifer y plant a phobl ifanc y nodwyd eu bod yn aros am apwyntiad CAMHS cyntaf fel claf allanol wedi lleihau 27% (3216 i 2355).  Mae'r gwasanaethau newydd rydym yn eu datblygu ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol, gyda buddsoddiad o £2m y flwyddyn, hefyd yn sicrhau bod gan y bobl ifanc hynny ffordd o gael gafael ar gymorth a chefnogaeth yn hytrach na chael eu hatgyfeirio i CAMHS, lle'r oeddent yn aml yn methu â chyrraedd y trothwyon ar gyfer triniaeth.

 

Mae ein buddsoddiad mewn Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol hefyd wedi golygu bod mwy na 5,400 o blant a phobl ifanc wedi cael eu hatgyfeirio i gael asesiad rhwng mis Ebrill 2015 a mis Medi 2016.

 

Yn sgil sefydlu Timau Triniaeth yn y Gymuned CAMHS ledled Cymru yn 2015, mae llai o bobl ifanc yn cael eu hanfon allan o'u hardaloedd, neu maent i ffwrdd am lai o amser, a rhagwelir y bydd hyn yn arwain at haneru cost y lleoliadau drud hyn yn 2016-17 o gymharu â 2014-15 [£2.3m o £4.7m].  Dywedodd pobl ifanc eu hunain, yn yr adroddiad Gwneud Synnwyr gan ddefnyddwyr gwasanaethau CAMHS [Ionawr 2016], na ellir gorbwysleisio bod uwchgyfeirio pobl ifanc yn amhriodol tuag at wasanaethau iechyd meddwl nid yn unig yn aneffeithiol ond hefyd yn niweidiol i'r bobl ifanc hynny,  a bod atgyfeiriadau amhriodol yn niweidiol i'r bobl ifanc hynny nad oes angen cymorth arbenigol arnynt ac i'r rhai y mae ei angen arnynt.

 

Lleihau atgyfeiriadau amhriodol yw un o egwyddorion canolog y Rhaglen Gyda'n Gilydd dros Blant a Phobl Ifanc a arweinir gan y GIG.  Mae'n ceisio cydweithio â phartneriaid ym meysydd iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a'r trydydd sector er mwyn sicrhau, pan fydd angen cymorth ar berson ifanc, ei fod yn cael y cymorth hwnnw o'r ffynhonnell fwyaf priodol ac mewn modd amserol. 

 

5.     Buddsoddiad Cyfalaf

Mae buddsoddi yn seilwaith y GIG yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol.  Byddwn yn buddsoddi mwy nag £1 biliwn o gyllid cyfalaf dros y pedair blynedd nesaf ar adeiladau, cyfarpar, cerbydau a TGCh y GIG.  Yn y papur diwethaf i'r Pwyllgor, nodwyd bod Blaenraglen Gyfalaf y GIG yn seiliedig ar Gynlluniau Tymor Canolig Integredig sefydliadau'r GIG, sy'n disgrifio'r gofynion o ran buddsoddi mewn seilwaith er mwyn datblygu dau faes cyflenwi allweddol – trawsnewid gwasanaethau a chynnal, disodli a moderneiddio adeiladau a chyfarpar presennol.

Ceir nifer o gynlluniau allweddol sy'n cefnogi newidiadau mewn gwasanaethau yn y cyfnod sydd i ddod, gan gynnwys ehangu cyfleusterau obstetreg, paediatreg a newyddenedigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Tywysog Siarl ac Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, a'r ysbytai cymunedol newydd yn Aberteifi, Tregaron a Gogledd Sir Ddinbych.  Rydym yn awyddus i sicrhau bod newidiadau'n cael eu rhoi ar waith ar raddfa fwy ac yn gyflymach mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol a bod GIG Cymru yn defnyddio technoleg a'r ystad i ddarparu gofal yn nes at y cartref.   Rydym yn ystyried y ffordd orau o gefnogi hyn ar hyn o bryd.  Hefyd, ceir rhaglenni moderneiddio sylweddol y mae angen eu datblygu yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Tywysog Siarl, Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru ac Ysbyty Wrecsam Maelor, yn ogystal â buddsoddiad parhaus yn y fflyd ambiwlansys ac mewn delweddu a TGCh.

Yn amlwg, bydd angen blaenoriaethu buddsoddiadau yn y dyfodol a bydd yn rhaid dangos buddiannau gwirioneddol. Fodd bynnag, caiff ein cyllid cyfalaf ei ategu gan ffynonellau ariannu eraill. Rydym eisoes wedi rhoi gwybod y bydd Canolfan Ganser newydd gwerth £210m Felindre yn cael ei chefnogi drwy gyllido refeniw gan ddefnyddio Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymru ac mae datblygiadau eraill hefyd yn cael eu hystyried, gan gynnwys Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) yng Ngorllewin Cymru sy'n archwilio nifer o ffynonellau a systemau ariannu amgen.

Byddem yn croesawu'r cyfle i roi rhagor o fanylion yn un o sesiynau'r Pwyllgor yn y dyfodol.

6.     Effaith Refferendwm yr UE

Gwnaethoch ofyn am ragor o sicrwydd ynghylch gweithgareddau yn sgil effaith refferendwm yr UE. Mae gwaith wrthi'n mynd rhagddo ymhob rhan o Lywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn dylanwadu cymaint â phosibl ar drafodaethau yn y DU ac, yn eu tro, ar drafodaethau ffurfiol yr UE, er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru. Rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu clywed a'u diogelu.

Bydd aelodau'r Pwyllgor yn ymwybodol, yn dilyn trafodaeth Plaid Cymru ar Weithwyr Tramor y GIG ar 16 Tachwedd 2016, ein bod o'r farn y dylai dinasyddion yr UE sy'n gweithio ac yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd allu aros yma ar ôl i'r DU adael yr UE. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae dinasyddion gwledydd eraill sy'n byw yng Nghymru yn ei wneud at ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau. Rydym wedi ymrwymo i ystyried pob ffordd bosibl o hwyluso'r gwaith o recriwtio a chadw gweithlu'r GIG sy'n dod o'r UE a thu hwnt ar ôl i'r DU adael yr UE.   Nid ydym am weld rheolaethau'n cael eu cyflwyno a fyddai'n niweidio economi Cymru neu wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys y GIG.

Mae ymchwil glinigol ac arloesedd yn rhannau allweddol o weithgarwch y GIG. Mae rhaglenni Ymchwil ac Arloesedd yr UE yn galluogi ein hymchwilwyr i gydweithio â chymheiriaid ledled Ewrop er mwyn ymateb i'r heriau cyffredin sy'n wynebu ein systemau iechyd. Mae'r cydweithio hwn wedi helpu'r GIG i ddatblygu triniaethau newydd, mabwysiadu arloesedd yn gyflymach a gwella ansawdd y gofal iechyd a ddarperir. Rydym yn gweithio i sicrhau y gall sefydliadau iechyd a gofal, ochr yn ochr â'n prifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill yng Nghymru, gymryd rhan yn rhaglenni iechyd, ymchwil ac arloesedd yr UE yn y dyfodol.

Mae un fframwaith rheoliadol ar gyfer yr UE yn sicrhau y gall technolegau iechyd newydd fod ar gael yn gyflymach er budd cleifion, gan sicrhau lefel uwch o ddiogelwch cleifion a diogelu iechyd y cyhoedd.  Byddwn yn ceisio osgoi gwahaniaeth rheoliadol rhwng y DU a'r UE er mwyn sicrhau y gall ein cleifion a'n gwasanaethau cyhoeddus barhau i gael gafael ar dechnolegau iechyd arloesol yn gynnar.

Mae'n hanfodol bod Cymru yn parhau i fod yn flaengar ac yn weithgar ar y llwyfan Ewropeaidd a thu hwnt, er gwaethaf y penderfyniad i adael yr UE. 

 

Yn gywir

 

 

 

 

Rebecca Evans AC

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Minister for Social Services and Public Health

 

 

 

Vaughan Gething AC

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport